Dwy Briodas Ann

Ciw-restr ar gyfer Syr John

(Lowri) Mae Syr John wedi gorffen cinio.
 
(Walter) A gaf i dywallt?
(1, 0) 100 Aros funud...
(1, 0) 101 Pwy ydy hon?
(Walter) Y forwyn fach syr.
 
(Walter) Dos, rwan.
(1, 0) 106 Saf fan'na....
(1, 0) 107 Be ydy d'enw di?
(Ann) Ann, syr.
 
(Ann) Ann Thomas.
(1, 0) 110 Be ydy d'oed di.
(Ann) Deunaw, syr.
 
(Ann) Deunaw, syr.
(1, 0) 112 O ble doist ti?
(Ann) O Aberffraw, syr.
 
(Ann) Ffermwr, a chanddo dyddyn go lew, Thomas Williams, ydy nhad i.
(1, 0) 115 Ydy dy ddwylo di'n lân?
(Ann) {Gan ddangos ei dwylo.}
 
(Ann) Roedden nhw'n lanach bum munud yn ôl.
(1, 0) 118 Fedri di dywallt te?
(Ann) A'i yfed hefyd, syr, pan fedra i fforddio.
 
(Ann) A'i yfed hefyd, syr, pan fedra i fforddio.
(1, 0) 120 O'r gore, Walter.
(1, 0) 121 Mi gaiff y forwyn fach yma dywallt te imi...
 
(1, 0) 124 ... Does dim rhaid iti aros.
(Ann) Siwgwr, Syr?
 
(Ann) Siwgwr, Syr?
(1, 0) 130 Ydy'r te'n gry?
(Ann) Mae o'n sefyll ryw bum munud.
 
(Ann) Mae o'n sefyll ryw bum munud.
(1, 0) 132 Un darn, felly...
(1, 0) 133 'Fedri di sgwennu, Ann?
(Ann) Cymraeg a Saesneg, syr.
 
(Ann) Be' wnawn i yma heb lythyrau?
(1, 0) 136 Wyt ti'n forwyn?
(Ann) Yn fy mlwyddyn gynta, syr.
 
(Ann) Yn fy mlwyddyn gynta, syr.
(1, 0) 138 Nid dyna rydw i'n ei ofyn...
(1, 0) 139 Wyt ti'n wyry?...
(1, 0) 140 Fuost ti'n caru yn y gwely?
(Ann) {Sioc, yna'n ddig.}
 
(Ann) Ond pa hawl sy gennych chi i ofyn?
(1, 0) 144 Peth prin yn dy ddosbarth di.
(Ann) {Fel rhew.}
 
(Ann) Mi alwa i ar Mr. Walter i dywallt i chi, ─ syr.
(1, 0) 147 Mi ofynnais i ti dywallt.
(Ann) Mae gen i'r llestri i'w golchi.
 
(Ann) Mae gen i'r llestri i'w golchi.
(1, 0) 149 Dos ymlaen...
 
(1, 0) 151 ... Wnei di 'mhriodi i, Ann?
 
(1, 0) 153 Wnei di 'mhriodi i, Ann?
(Ann) {Wedi hir edrych arno.}
 
(Ann) Dyna ofynsoch chi'r tro cynta?
(1, 0) 156 Ie.
(Ann) Roeddwn i'n amau 'mod i'n clywed pethau ac yn gwirioni.
 
(Ann) Roeddwn i'n amau 'mod i'n clywed pethau ac yn gwirioni.
(1, 0) 158 Wel?...
(1, 0) 159 Wnei di?
(Ann) Tad annwyl!
 
(Ann) {Mae hi'n chwerthin yn dawel.}
(1, 0) 163 Pam 'rwyt ti'n chwerthin?
(Ann) Mae pethau'n digwydd imi heddiw.
 
(Ann) Mae pethau'n digwydd imi heddiw.
(1, 0) 165 Rydw i o ddifri, Ann.
(Ann) Gobeithio'ch bod chi.
 
(Ann) Gobeithio'ch bod chi.
(1, 0) 167 Rwyt ti'n fy nghredu i?
(Ann) Rydw i'n ceisio 'ngore.
 
(Ann) Rhowch funud neu ddau imi.
(1, 0) 170 Dyna pam y gyfynnais i─
(Ann) Rydach chi'n reit sobor, syr?
 
(Ann) Rydach chi'n reit sobor, syr?
(1, 0) 172 Fûm i erioed yn sobrach er pan wnes i f'ewyllys yn Gibraltar saith mlynedd yn ôl.
(Ann) {Dan wenu.}
 
(Ann) Ewyllys hen lanc?
(1, 0) 176 Mae darpariaeth ynddi i wraig...
(1, 0) 177 Un unig ydw i, Ann.
(Ann) 'Does dim rhaid i chi fod.
 
(Ann) 'Does dim rhaid i chi fod.
(1, 0) 179 Rydw i'n hen, 'merch i.
(1, 0) 180 Blwyddyn arall ac mi fydda i'n ddeugain.
(Ann) Dyna glep y gegin er pan ddois i yma.
 
(Ann) Mi fu 'na ddal grotiau y priodech chi cyn eich deugain.
(1, 0) 183 'Gân' nhw ddychryn?
(Ann) Mi gaiff Richard Walter sioc ei fywyd.
 
(Ann) Mi gaiff Richard Walter sioc ei fywyd.
(1, 0) 185 Mae arna i ofn y bydd peth dychryn ar y cynta yn Bath ac yn Baron Hill... cyn iddyn nhw dy weld di.
(Ann) A chwerthin go fawr am eich pen chi yn priodi cangen o forwyn weini.
 
(Ann) A'r gwatwar yn yr |assembly| ym Miwmares!
(1, 0) 188 'Fydd arnat ti ofn?
(Ann) Mae gwragedd eich dosbarth chi yn fedrus iawn i frifo.
 
(Ann) Fel tynnu gwaed.
(1, 0) 191 Mi fyddi di'n un ohonyn nhw.
(Ann) 'Ddwedwch chi hynny wrth Mrs. King?
 
(Ann) 'Ddwedwch chi hynny wrth Mrs. King?
(1, 0) 193 Mi fydd yn haws sgwennu ati na dweud wrthi.
(1, 0) 194 Tipyn o arglwyddes ydy fy chwaer.
(Ann) Syr John, munud o wallgofrwydd ydy hwn.
 
(Ann) Rydw i wedi cael notis.
(1, 0) 199 Ddaru ti addo 'mhriodi i, Ann Thomas?
(Ann) Do, syr.
 
(Ann) Do, syr.
(1, 0) 201 Wyt ti'n tynnu'n ôl?
(Ann) Rhoi cyfle i chi i dynnu'n ôl.
 
(Ann) Rhoi cyfle i chi i dynnu'n ôl.
(1, 0) 203 Rhaid inni briodi heb fod neb yn gwybod...
(1, 0) 204 Yma yn eglwys y plwy...
(1, 0) 205 Tair wythnos i heddiw...
(1, 0) 206 Am wyth ar gloch y bore...
(1, 0) 207 Leisens arbennig...
(1, 0) 208 Rhoi'r ficer ar ei lw i gau ei geg.
(1, 0) 209 Fedri di fod allan y bore heb i neb yn y cefn amau?
(Ann) Bore pobi bara.
 
(Ann) Tair wythnos i neithiwr mi anghofia i'r burum.
(1, 0) 214 Fedri di ddilyn dy waith yma am dair wythnos fel cynt?
(Ann) Hawdd deffro o freuddwyd a dau droed ar y llawr.
 
(Ann) Hawdd deffro o freuddwyd a dau droed ar y llawr.
(1, 0) 216 Nid breuddwyd ydy hyn, Ann.
(Ann) Breuddwyd i mi nes mynd am y burum.
 
(Ann) Tan hynny peidiwch chi â gofyn am fy ngweld.
(1, 0) 219 Paid dithau â rhedeg i ffwrdd.
(Ann) Rhaid imi ofyn maddeuant Mrs. Roberts er mwyn aros.
 
(Ann) Rhaid imi ofyn maddeuant Mrs. Roberts er mwyn aros.
(1, 0) 221 Be fu?
(Ann) Mymryn o ffrwgwd wedi imi fethu codi llwch.
 
(Ann) Tendiwch!
(1, 0) 226 Fedri di reoli tŷ fel hwn?
(Ann) Mi fydd gen i Mrs. Roberts.
 
(Ann) Nid dyna fydd fy mhroblem i.
(1, 0) 229 Be' fydd dy broblem di?
(Ann) Ond chi...
 
(Ann) Chi!
(1, 0) 232 Ann bach, rydw i'n methu'n lân â dirnad pam rwyt ti'n fy mentro i.
(Ann) Mi fydde'n ffitiach fy mod i'n deud hynny na chi...
 
(Ann) Chi sy'n mentro.
(1, 0) 235 Mi wn i pam rydw i'n mentro.
(1, 0) 236 Ond pam yr wyt ti?
(Ann) Gofynnwch i Mrs. King.
 
(Ann) Gofynnwch i Mrs. King.
(1, 0) 238 I ti rydw i'n gofyn.
(Ann) Mi ro i ateb Mrs. King.
 
(Ann) Chawn i ddim cynnig gwell tawn i'n aros chwarter canrif.
(1, 0) 241 Dyna'r unig reswm?
(Ann) Cwestiwn teg tair wythnos i heno.
 
(Walter) Mae 'na ddyn yn y drws, syr, yn gofyn am eich gweld chi.
(1, 0) 248 Gŵr bonheddig?
(Walter) Nage, syr.
 
(Walter) Methodist.
(1, 0) 251 Clerigwr?
(Walter) O nage, syr.
 
(Walter) Siopwr, groser, ond ei fod o'n prygawthan pregethu hefyd.
(1, 0) 254 Un o'r pentre?
(Walter) O Lanfechell.
 
(Walter) Dyn dwad, wedi priodi merch i Mr. Broadhead.
(1, 0) 257 Hwnna?
(1, 0) 258 Mi glywais amdano.
(1, 0) 259 Be sy arno'i eisiau?
(Walter) Gofyn am eich gweld chi.
 
(Walter) Ddwedodd o mo'i neges.
(1, 0) 262 'Tyrd a fo yma.
(Walter) John Elias, syr.
 
(Walter) John Elias, syr.
(1, 0) 267 Pnawn da.
(Elias) Pnawn da, Syr John.
 
(Elias) Pnawn da, Syr John.
(1, 0) 269 Be alla i ei wneud i chi?
(Elias) Mi fuoch chi'n gapten yn llynges ei Fawrhydi yn y rhyfel enbyd yma, Syr John?
 
(Elias) Mi wyddoch chi'n well na nemor neb am beryglon y môr a helynt llongwyr ynys Môn yn y rhyfel, yn arbennig y llongau masnach y mae llongau rhyfel Napoleon yn eu herlid a'u dal.
(1, 0) 278 Mae brwydr Traffalgar y llynedd wedi gostwng llawer ar y peryglon hynny.
(Elias) Do'n wir, Syr John, ac i chi'r capteiniaid a'r Arglwydd Nelson dan ragluniaeth y nef y mae'r diolch.
 
(Elias) Ond y mae ambell long ryfel o Ffrainc yn ffroeni o gwmpas moroedd Cymru hyd yn oed rwan.
(1, 0) 282 Ac weithiau'n dal ysglyfaeth.
(1, 0) 283 Fel yna, welwch chi, mae capteiniaid llynges yn ennill eu bara.
(Elias) A'u hysglyfaeth yn dihoeni yng ngharcharau Ffrainc.
 
(Elias) A'u hysglyfaeth yn dihoeni yng ngharcharau Ffrainc.
(1, 0) 285 Mae'n drueni amdanyn nhw, ond rhyfel ydy rhyfel.
(Elias) Mae nifer ohonyn nhw'n Gymry, Syr John.
 
(Elias) Mae nifer ohonyn nhw'n Gymry, Syr John.
(1, 0) 287 Oes rhai o Sir Fôn yma?
(Elias) Un o Amlwch, Capten Thomas Owen, perchennog ei long ei hun.
 
(Elias) Syr John, casglu cronfa i helpu'r Cymry hyn yn Ffrainc i brynu bwyd a chysuron yr ydw innau, a dwad yma i ofyn i chi helpu ydy fy neges i.
(1, 0) 296 Ydach chi'n nabod rhai ohonyn nhw?
(Elias) Rydw i'n nabod Capten Thomas Owen yn dda.
 
(Elias) Mi fu o am dymor yn Fethodist, ond fe wrthgiliodd.
(1, 0) 299 A chithau'n casglu iddo fo?
(Elias) Mae'n o'n Gymro ac mewn angen.
 
(Elias) Mae'n o'n Gymro ac mewn angen.
(1, 0) 301 I'r Cymry rydych chi'n casglu?
(Elias) I'r carcharorion rhyfel yn Ffrainc o Fôn ac Arfon a Meirionnydd.
 
(Elias) Maen nhw'n crefu'n daer.
(1, 0) 305 Oes gennych chi rywbeth i ddangos iddyn nhw dderbyn yr arian?
(Elias) {Gan roi papurau iddo.}
 
(1, 0) 309 Sir John Elias!
 
(1, 0) 311 Pwy ydy hwnnw?
(Elias) {Dan wenu.}
 
(Elias) Anodd i bobl yn Ffrainc ddychmygu am neb llai na marchog sir yn estyn cymorth i drueiniaid rhyfel.
(1, 0) 315 Yn wir, rydach chi'n rhoi golwg newydd i minna ar y Methodistiaid.
(1, 0) 316 Peth anghyffredin yn eich hanes chi?
(Elias) Syr John, mae gennym ni Fethodistiaid esgob o lywydd i Ogledd Cymru yn y Parchedig Mr.
 
(Elias) Y mae casglu i'r capteiniaid o Gymry yn Ffrainc ac i Gymdeithas y Beiblau drwy'r byd yn rhan o'n dyletswydd ni yn ôl Epistol Pedr ac yn ôl athrawiaeth Mr. Charles.
(1, 0) 321 Wel, mi gaiff fod yn rhan o 'nyletswydd inne, er nad ydw i ddim yn Fethodist.
(1, 0) 322 Mi ro i ddau gini i chi at yr achos da.
(Elias) Bendith y nefoedd arnoch chi, syr, ac ar─roeddwn i ar fin dweud ac ar eich teulu.
 
(Elias) Ond gŵr dibriod ydach chi.
(1, 0) 325 Wel ie, hyd yn hyn, hyd yn hyn...
(1, 0) 326 Ond rhoswch rwan, mi fydda i'n eistedd ar y fainc weithiau gyda Mr. Richard Broadhead.
(1, 0) 327 Rydach chi, yn ôl a glywaf i, yn fab yng nghyfraith iddo fo?
(Elias) Mi gefais i'r anrhydedd o ennill llaw ei ferch hynaf o.
 
(Elias) Ond nid o fodd Mr. Broadhead, mae'n ddrwg gen i ddeud.
(1, 0) 330 Mae hynny'n naturiol.
(1, 0) 331 Mae priodi'n is na'i stad yn beryg go enbyd, yn enwedig i ferch.
(Elias) Mi wn ei fod o'n berigl ac yn dramgwydd.
 
(Elias) Ond chlywais i erioed awgrym o hynny gan fy ngwraig.
(1, 0) 334 Mi ddalia i naddo.
(1, 0) 335 Rydw i'n ei chofio hi'n eneth fach, yr hyna ohonyn nhw, ffefryn annwyl ei thad, merch fonheddig a gwraig fonheddig.
(Elias) Gwraig dduwiol.
 
(Elias) Gwraig dduwiol.
(1, 0) 337 Aha?
(1, 0) 338 Chi wnaeth Fethodist ohoni?
(Elias) Roedd hi'n Fethodist cyn i mi ei gweld hi.
 
(Elias) Roedd hi'n Fethodist cyn i mi ei gweld hi.
(1, 0) 340 Felly nid ei phriodas oedd achos y rhwyg rhyngddi a'i thad?
(Elias) Ei chrefydd hi oedd cychwyn y trwbl, mynd i'r seiat.
 
(Elias) Ei chrefydd hi oedd cychwyn y trwbl, mynd i'r seiat.
(1, 0) 342 Dewis cwmni isel, gwerinol.
(1, 0) 343 Wedyn priodi i'w chlymu ei hun ynddo.
(1, 0) 344 Druan o'r hen Broadhead, colli cannwyll ei lygad.
(1, 0) 345 A dwyn gwarth arno hefyd.
(1, 0) 346 Hynny yw, yn ei gylch ei hun.
(Elias) Mae o'n dechrau maddau iddi hi.
 
(Elias) Mae o'n dechrau maddau iddi hi.
(1, 0) 348 Ac i chithau?
(1, 0) 349 Wedi'r cwbl, mae ganddo fab yng nghyfraith reit enwog.
(Elias) Wel, mae o'n cyfrannu at y gronfa yma i helpu'r Cymry yn Ffrainc.
 
(Elias) Wel, mae o'n cyfrannu at y gronfa yma i helpu'r Cymry yn Ffrainc.
(1, 0) 351 Rydach chi'n swynwr heb eich bath.
(1, 0) 352 Mi ddalia i mai yn y pwlpud y gwelodd Miss Broadhead chi gynta?
(Elias) Pregethu ydy fy ngwaith i, fy mywyd i.
 
(Elias) Mi welodd hithau hynny.
(1, 0) 356 Mae pwlpud yn berig i ferch!
(Elias) Tybed nad ydy plas hen lanc yn berig i ferch?
 
(Elias) Tybed nad ydy plas hen lanc yn berig i ferch?
(1, 0) 358 Wel ie, digon posib.
(1, 0) 359 Ond fu 'na rioed ferch a briododd y pwlpud a'r plas.
(Elias) Gadael y plas i weini ar y pwlpud, dyna offrwm fy ngwraig i.
 
(Elias) Gadael y plas i weini ar y pwlpud, dyna offrwm fy ngwraig i.
(1, 0) 361 Offrwm?
(1, 0) 362 Gair da yn ei le...
(1, 0) 363 Dwedwch i mi, a gobeithio nad ydy'r cwestiwn ddim yn rhy bersonol... gawsoch chi fod priodi mor anghyfartal o ran dosbarth a dygiad i fyny, yn anodd?
(Elias) Syr John, os ydy'r briodas o'r ddwy ochr o wirfodd─
 
(Elias) Syr John, os ydy'r briodas o'r ddwy ochr o wirfodd─
(1, 0) 365 Ie?
(Elias) Yna does dim priodi anghyfartal.
 
(1, 0) 368 Sir John Elias! Sir John Elias!
(1, 0) 369 Ateb gŵr bonheddig.
(1, 0) 370 Rydych chi'n codi fy nghalon i'n arw...
 
(1, 0) 372 Fwy nag y tybiwch chi.
(1, 0) 373 Mi ddaethoch chi yma pan oedd eich angen chi...
(1, 0) 374 Faint ddwedais i y rhown i i'r gronfa yma?
(Elias) Dau gini, yntê?
 
(Elias) Dau gini, yntê?
(1, 0) 376 Mae'ch neges chi heddiw yn haeddu mwy na hynny.
(1, 0) 377 Dywedwn bum punt.
(1, 0) 378 Arhoswch...
 
(1, 0) 380 Rhaid inni fynd i'r offis....
 
(1, 0) 382 Walter, tyrd â het a chot Mr. Elias i'r offis.
(1, 0) 383 Mae gennyn ni fusnes yno...